SL(6)360 –  Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”), sy’n darparu ar gyfer gwneud rhai categorïau o bersonau o dramor yn gymwys neu'n anghymwys i gael dyraniad o lety tai a/neu gymorth tai.  

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 3, 4, 5, a 6 o Reoliadau 2014. Mae’r Rheoliadau’n estyn cymhwystra i gael dyraniad o lety tai a chymorth tai a ddarperir gan awdurdodau lleol  i bobl sy'n wladolion Prydeinig, personau eraill nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo (neu nad ydynt yn cael eu trin felly), ac unrhyw un â chaniatâd mewnfudo a hawl i gyllid cyhoeddus sy'n cyrraedd y DU oherwydd yr aflonyddwch sifil yn Sudan, a waethygodd yn sydyn ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod “ymrwymiad cadarn Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru yn cryfhau'r cyfiawnhad dros y cynnig hwn, am y byddai unrhyw rwystr sy'n atal cymorth rhag cael ei roi i bobl sy'n ceisio tai neu gymorth tai yn mynd yn groes i'r polisi cyfredol ynglŷn â digartrefedd”.

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Rydym yn nodi na chynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch y Rheoliadau hyn, a hynny am y rhesymau a amlinellir yn y paragraff canlynol yn y Memorandwm Esboniadol:

Gan fod y sefyllfa yn Sudan wedi digwydd mor sydyn, a'r angen ymarferol i wneud yn siŵr y gall y rhai sydd wedi cyrraedd neu sy'n cyrraedd Cymru gael tai neu gymorth tai, rydym o'r farn y byddai'n anfanteisiol cynnal ymgynghoriad. Gan y bydd y Rheoliadau diwygio hefyd yn sicrhau canlyniadau sy'n ymwneud â pholisi (mewnfudo a lles) y Llywodraeth y DU a ddargedwir, ni fyddai modd cynnal ymgynghoriad ystyrlon ar ddulliau gweithredu amgen, gan mai effaith y Rheoliadau diwygio yw sicrhau cysondeb rhwng cyfraith tai Cymru a chyfraith mewnfudo/lles.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

31 Mai 2023